flogo.png  256px-Youtube_icon_1.png

0I0A6047.jpg0I0A6088.jpg

Ymholiadau

Y Telynau

0I0A6040.jpg

Yn ddiamheuaeth, mae’r delyn yn rhan annatod o ddiwylliant ein gwlad ac rwy’n arbennig o falch o fod yn berchen ar ddwy delyn a wnaed yma yng Nghymru.

Gwnaed fy nhelyn gyngerdd ‘Gwynneth’ imi’n arbennig gan Allan Shiers yn ei weithdy yng Nghapel Dewi, de Ceredigion pan oeddwn yn fy arddegau hwyr, a chefais fewnbwn i’r broses gynhyrchu o’r cychwyn cyntaf. Mae iddi sain gynnes braf sydd wedi aeddfedu dros y blynyddoedd. Roedd Allan â’i frid ar sefydlu menter gymunedol a fyddai’n diogelu’r traddodiad gwneud telynau yng Nghymru i genedlaethau’r dyfodol. Aethpwyd ati i wireddu’r freuddwyd honno drwy sefydlu Telynau Teifi, Canolfan Delynau Cymru yn Llandysul ryw ddeuddeng mlynedd yn ôl.

0I0A6143.jpg

Rwyf hefyd yn berchen ar delyn ‘Eos’ a wnaed gan Delynau Teifi. Telyn Geltaidd 36 tant yw hon ag iddi sain hynod glir a chyfoethog. Er ei bod yn delyn lai sy’n haws ei chludo, mae ansawdd y sain yn debyg iawn i delyn gyngerdd.

Cliciwch yma i wybod rhagor am sut mae Allan a’i griw yn Llandysul yn cynnal y traddodiad gwneud telynau yma yng Nghymru. 

Dolenni Cyflym

Hafan | Priodasau |Y Gerddoriaeth | Digwyddiadau | 
Y Telynau | Cysylltu | Dolenni

Cysylltu

Ffôn: 01974 241173
Ffôn Symudol: 07813107052
E-bost: info@heledd-davies.cymru

Website by InSynch