flogo.png  256px-Youtube_icon_1.png

Llun-Keith_360px.jpgwedding harpistwedding musicians

Ymholiadau

Priodasau

0I0A5954.jpg

Gall sain unigryw’r delyn fod yn gefndir hyfryd i’ch diwrnod arbennig chi. Rwyf wedi canu’r delyn mewn pob math o briodasau ac mewn gwahanol leoliadau drwy Gymru, ac rwy’n hapus i ddarparu amrywiaeth o gerddoriaeth. Yn weledol hefyd, mae’r delyn yn offeryn hardd a gall ychwanegu’n fawr at rwysg y diwrnod.

Gallaf fynd ati i ddysgu alawon o’ch dewis chi os ydynt yn addas i’r offeryn. Efallai bod gennych hoff gân yr hoffech ei chlywed fel ymdeithgan neu wrth ichi arwyddo’r gofrestr. Os oes gennych chi gerddoriaeth benodol mewn golwg, cysylltwch â mi i gael sgwrs ac mi wna’ i ‘ngorau i fodloni eich gofynion. Gallaf deilwra’r gerddoriaeth fel y gallwch osod eich stamp eich hun ar y diwrnod. Byddaf yn trafod eich anghenion yn fanwl â chi mewn da bryd cyn y diwrnod mawr.

Pecynnau Priodas

Gallwch ddewis ym mha ran o’ch diwrnod arbennig chi yr hoffech imi chwarae. Gall y gost amrywio, gan ddibynnu ar y pellter ac am ba hyd y bydd fy angen i. 

Y Gwasanaeth Priodas

Byddaf yn cychwyn chwarae tua 20 munud cyn i’r gwasanaeth ddechrau ac wrth i’r gwesteion gyrraedd eu seddi. Byddaf yn chwarae darn wrth i’r briodferch gyrraedd ac un neu ddau o ddarnau wrth arwyddo’r gofrestr. Byddaf yn chwarae eto yn ystod ymdeithgan y pâr priod a byddaf yn parhau i ddarparu cerddoriaeth hyd nes bod y gwesteion i gyd wedi ymadael. 

Hefyd, os oes gennych eitem gerddorol mewn golwg ar gyfer y gwasanaeth, gallaf ddarparu cyfeiliant i lais neu offeryn arall os ydych yn dymuno.

Y derbyniad diodydd / tynnu lluniau

Gall sain y delyn yn y cefndir helpu i greu awyrgylch hamddenol wrth i’r gwestion ddechrau cymdeithasu a mwynhau ambell ddiod tra bod y lluniau’n cael eu tynnu.

Yn ystod y wledd briodas

Gallaf ddarparu cerddoriaeth gefndirol wrth ichi fwynhau’ch gwledd briodas a gallaf barhau i chwarae hyd nes bod yr areithiau’n cychwyn.

Os nad yw eich priodas yn dilyn trefn draddodiadol, mi wna’ i ‘ngorau i fodloni’ch gofynion. Cysylltwch â mi i gael sgwrs. 

Dolenni Cyflym

Hafan | Priodasau |Y Gerddoriaeth | Digwyddiadau | 
Y Telynau | Cysylltu | Dolenni

Cysylltu

Ffôn: 01974 241173
Ffôn Symudol: 07813107052
E-bost: info@heledd-davies.cymru

Website by InSynch